Un o Gaerffili ydi Cath yn wreiddiol Mae hi'n ferch iawn; wel mae'n rhaid i mi ddweud hyn gan iddi roi menthyg ei nodiadau Cymraeg i mi sawl tro, gan ei bod hithau'n astudio'r Gymraeg gyda mi'n Aber.
Y peth ydi, dwi'n meddwl ei bod hi wedi deall dipyn mwy ar y cwrs na mi; cymaint nes iddi benderfynu aros ymalen yno i wneud ei doethuriaeth.
Dydi hi ddim yn rhy hoff o gloc larwm, a chwarae teg iddi, mae hi'n lot gwell am fod yn barod yn brydlon (diolch Tim!). Yr hyn y buaswn i'n hoffi ei wybod; a yw'r Athro Derec Llwyd Morgan wedi darganfod eto o ble ddaeth y staen gwin coch wnaeth "ymddangos" ar un o'i glystogau wedi noson yng nghwmni Graddedigion Cymraeg 1994???
Luned Parry luned@gently.org.uk