Dwi'n meddwl i bawb gael diwrnod da iawn, er iddi fwrw'n drwm. Roedd Mam Anwen, LLinos wedi bod yn wael, ond dwi'n meddwl idi hithau gael diwrnod hapus hefyd. Fe wnaeth y diwrnod ddechrau'n dda gyda safon yr emynau oedd yn cael eu chwarae ar yr organ. Sgwn i pwy oedd yr organyddess dalentog???

Roedd y seremoni'n un syml, ond neis, ac Anwen wrth gwrs yn edrych yn union fel Miss Royal Welsh 1997!(teitl yr oedd hi wedi ennill ychydig ddiwrnodau ynghynt)

Os ydach chi'n meddwl bod y ffrog yn edrych yn ddel, dydio'n ddim i'w gymharu â'r presantau a gafodd hi a Gary.

Luned Parry luned@gently.org.uk