Wel, am benwythnos a hanner nôl yn Aber! Dwi'n meddwl i bawb fwynhau eu hunain o leia'.
Mae'n od; y bobl oedd gan y pella' i ddod oedd y rhai cynta' i gyrraedd fwy neu lai. Roedden i'n aros yn un o neuaddau'r Brifysgol, yn Rosser. Pan y gwnes i gyrraedd, roedd Cathryn a Catrin wrthi'n brysur yn paratoi'r fflat; yn rhoi balwns fyny ymhob man, yn rhoi lluniau priodasol ar y waliau, ac unrhywbeth arall gwirion yr oedd hi'n gallu meddwl amdano! Daeth â llawer o atgofion yn nôl wrth roi lluniau i fyny ar y wal.
Roedd Cathryn, chware teg iddi, wedi bod yn siopa' felly roedd 'na dipyn golew o fwyd o gwmpas y lle. Roedd 'na ddipyn golew o ddiod hefyd, felly tra roedd y dair ohonom (Catrin, Cath a fi) yn disgwul i weddill y criw gyrraedd, yr unig beth yr oedden ni'n gallu ei wneud oedd hel clecs, bwyta, ac wrth gwrs yfed!
Erbyn i Gwawr, Anwen ac Emma Maesteg gyrraedd (roedd Carol yn dod fyny'r diwrnod canlynol), dwi'n meddwl ein bod ni'n tair yn teimlo'n hapus iawn! Yfwyd mwy o wîn (wel, roedd rhai iddyn nhw ddal fyny efo ni!).
Roedden ni'n meddwl y byddai'n syniad da mynd lawr dre', er mwyn atgoffa pobl Aber pa mor swnllyd yr oedden ni'n gallu bod! Am hwyl!!!
Pam mai'r nosweithiau gorau yw'r rhai nad yw wedi cael eu trefnu? Fe wnaethon ni dreilio'r rhan fwyaf o'r noson yn dawnsio yn y Glengower, yn dawnsio i'r clasurin disco hynny gan bobl megis Tom Jones ac Abba.
Luned Parry luned@gently.org.uk